Cwestiynau Cyffredin

A ddylwn i ddewis amlosgi neu gladdu ar gyfer fy anifail anwes?

Mae hwn yn benderfyniad personol. Mae llawer yn dewis amlosgi i gadw lludw eu hanifeiliaid anwes yn agos, hyd yn oed os ydyn nhw’n symud tŷ. Gall cadw lludw eich anifail anwes eich galluogi i greu gemwaith sy’n gofroddhynodbersonol. Mae perchnogion anifeiliaid anwes eraill yn penderfynu amlosgi fel y gallant wasgaru lludw eu hanifeiliaid anwes yn eu hoff leoedd. 


Beth yw’r gwahaniaeth rhwng amlosgi preifat a chymunedol?

Mewn amlosgiad preifat, mae eich anifail anwes yn cael ei amlosgi ar ei ben ei hun. Mewn amlosgiad cymunedol, mae nifer fach o anifeiliaid anwes yn cael eu hamlosgi gyda’i gilydd. Yn Tawel, rydym yn awyddus i ddarparu’r dewis amgen hwn i berchnogion anifeiliaid anwes er mwyn sicrhau y gallwn ddarparu gofal ar ôl oes personol wedi’i deilwra i berchnogion ym mhob amgylchiad. 


Beth ydych chi’n ei wneud gyda’r lludw o amlosgiad cymunedol?

Yn Tawel, rydym wedi cael trwydded ddynodedig sy’n ein galluogi i wasgaru lludw o amlosgiadau cymunedol yn ein coetir preifat, sydd wedi’i orchuddio gan glychau’r gog yn ystod y misoedd y maent yn blodeuo. Rydym yn credu mai ni yw’r unig gyfleuster yng Nghymru sydd â thrwydded o’r fath ac rydym yn teimlo’n angerddol na ddylid anfon lludw anifeiliaid anwes at safleoedd tirlenwi.


Pa mor hir fydd hi’n ei gymryd i dderbyn lludw fy anifail anwes?

Yn Tawel, rydym yn anelu at ddychwelyd lludw i berchnogion o fewn 2-3 diwrnod fel arfer. Mae gwasanaeth ar yr un diwrnod ar gael, yn amodol ar dâl ychwanegol.

Sut ydw i’n gwybod y byddaf yn derbyn y lludw cywir?

Mae Tawel yn amlosgfa anifeiliaid anwes annibynnol sy’n cael ei rhedeg gan deulu. Rydym yn defnyddio system adnabod gadarn i sicrhau bod anifeiliaid anwes yn cael eu hadnabod trwy gydol yr amser y maen nhw’n ei dreulio gyda ni. Gallwch fod yn sicr fel perchnogion anifeiliaid anwes ein hunain ein bod yn gofalu ac yn trin eich anifail anwes fel pe bai’n un o’n rhai ni ein hunain.

Sut fydda i’n derbyn lludw fy anifail anwes yn ôl ar ôl amlosgi fy anifail anwes?

Mae hyn yn ddibynnol ar yr hyn rydych chi’n cynllunio ei wneud gyda lludw eich anifail anwes. Yn Tawel, rydym yn cynnig ystod o gynwysyddion i sicrhau bod perchnogion yn gallu dewis yr opsiwn sy’n iawn iddynt. Mae tiwb gwasgaru wedi’i gynnwys ym mhris amlosgiad preifat, ond os dymunir dewis mwy personol fel arch bren wedi’i harysgrifio, wrn deniadol, neu fasged helyg er enghraifft, yna mae’r rhain ar gael ac yn cael eu prisio ar wahân.

A allaf fod yn bresennol yn ystod amlosgiad fy anifail anwes?

Rydym yn caniatáu i berchnogion a theuluoedd ymweld â’n cyfleuster a chael defnydd o’n hardal capel gorffwys lle gallwch dreulio amser i ffarwelio â’ch anifail anwes. Gall perchnogion hefyd fod yn bresennol ar gyfer amlosgi eu hanifeiliaid anwes er ein bod yn cynghori y gall fod angen hyd at bedair awr.


A allaf gladdu lludw fy anifail anwes?

Ie; mae hyn yn bosibl ac mae’n syniad hyfryd tyfu bywyd newydd o ludw, fel gyda phlanhigyn blodeuog, neu goeden. Yn Tawel, rydym yn cynghori ar y defnydd o bridd “Dychwelyd i Natur” (Return to Nature) sy’n helpu i leihau lefelau sodiwm gwenwynig a niwtraleiddio pH uchel tra’n rhyddhau maetholion yn ôl i’r pridd, gan ganiatáu i fywyd planhigion ffynnu. Mae Tawel yn gyflenwr balch o hyn, sydd ar gael i’w brynu.


Beth os y dewiswn ni iwthanasia o gartef, i’n anifail anwes? Neu beth os mae ein anifail anwes yn colli ei fywyd tra ei fod gyda’r milfeddyg? All Tawel helpu ni?

Gall; mae bod yn cwmni deulu yn golygu ein bod ni’n medru cynnig hyblygrwydd i ymateb i chi yn ol eich gofyn. Fe allwch drefnu i ni gasglu eich anifail anwes o le bynnag y mae nhw mewn gorffwys; fel arall, mae croeso i chi cludo eich anifail anwes at ein lleoliad. Fe drefnwn apwyntiad i chi, er mwyn I chi cael ein sylw llawn a defnydd o’n ystafell gorffwys sydd yn cefnogi chi i ffarwelio ac adlewyrchu mewn heddwch.