Trefnu Amlosgiad  – Tawel

Mae’n ddrwg gennym ni am eich colled

 Darlun o 2 gi, cath a llygoden fawr

I drafod amlosgiad eich anifail anwes gyda Tawel, cysylltwch â ni ac fe ‘new ni ein gorau i gefnogi chi. Fedrwch gysylltu drwy alw 01558 534 453 ar unrhyw adeg, ac os na fedrwn ni ateb yn syth, gofynnwn yn garedig i chi adael neges er mwyn i ni gysylltu yn ol o fewn y dydd. 

Cynnigwn broses syml ac rydym yn hapus i aros mewn cyswllt cyson gyda chi, o ddeall gwerth eglurder yn ystod amseroedd heriol fel hyn. 

Fe fedrwn gasglu anifeiliaid mewn gorffwys o’ch milfeddyg neu o gartref o fewn 25 milltir radiws o’n lleoliad. Rydym yn cludo’n gydymdeimladol ac yn barchus gan sicirhau fod cofnodion yn cael ei gynhyrchu wrth gasglu ac wrth gyrraedd ein lleoliad, er mwyn cynnig sicrwydd.

Hoffwn i deuluoedd mewn profedigaeth gael yr amlosgiad y maent ei eisiau ar gyfer eu hanifeiliaid anwes, felly os hoffech gynnwys unrhyw elfennau personol penodol, megis teganau meddal, rhowch wybod i ni.

Unwaith y gallwn amcangyfrif dyddiad ac amser amlosgiad eich anifeiliaid anwes, rydym yn cyfleu hynny i chi. Os y dymunwch, gallwn eich helpu i benderfynu ar gynnyrch coffa sy’n anrhydeddu ysbryd ac egni eich anifail anwes orau. Yna caiff hwn ei ddefnyddio i ddychwelyd olion gwerthfawr eich anifail anwes yn ôl atoch chi a’i fan gorffwys olaf. Fe allwn hefyd ddychwelyd olion gwerthfawr yn ol i natur, ac rydym yn falch o fod yn gwbl drwyddedig i wneud hyn.

 Darlun o 2 gi, cath a llygoden fawr